Pensil

Oddi ar Wicipedia
Dau bensil HB

Pensil (neu pensel) yw offeryn pren hir a chul gyda'i ganol wedi'i wneud o graffit er mwyn ysgrifennu a thynnu lluniau. Caiff pensiliau eu defnyddio hyd heddiw gan artistiaid er mwyn tynnu braslun (neu sgets) neu lun dyfrlliw ar gynfas ac fe'u defnyddir hefyd er mwyn amlygu llun di-liw sy'n gallu cyfleu amryw o arlliwiau, cysgodion a phellter. Pwrpas cas allanol y pensil yw amddiffyn y graffit bregys y tu fewn iddo.

Wrth wneud ei waith, mae'r pensil yn gadael rhan ohono ar ôl, a'r gronynnau mân hyn ydy'r marc a welir ar y papur. Mae hyn yn hollow wahanol i beniau (e.e. pin ffelt) sy'n gadael llif o hylif neu jel yn hytrach na llwch mân ar y papur golau.

Math o garbon ydy graffit, a'r dyddiau hyn cymysgir clai gyda'r graffit, sy'n gadael olion llwyd neu ddu y gellir eu rhwbio o'r papur yn hawdd, pe bai angen. Gall wrthsefyll y rhan fwyaf o ffactorau eraill fel gwlybaniaeth, amser neu gemegolion. Mae pensiliau o siarcol tipyn yn brinach erbyn heddiw, ac fe'u defnyddir gan artistiaid yn bennaf. Mae'r defnydd o bensiliau graffit mewn ysgolion yn boblogaidd iawn oherwydd y ffactorau hyn, a chan nad ydynt yn difrodi dillad y plentyn. Mae pensiliau lliw hefyd yn boblogaidd mewn ysgolion ac ar gyfer artistiaid. O ychwanegu saim neu gwyr gyda'r graffit, ceir pensil meddalach, sy'n medru gadael ei ôl ar ddeunyddiau gloyw, llyfn fel gwydr neu blastig. Hoff fath Walt Disney oedd pensil saim.[1] Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y pensiliau mecanyddol cyntaf mor bell yn ôl a'r 18g a chychwynwyd cofrestru patentau arnynt yn y 19g.

Siart yn dangos pa mor feddal neu galed yw'r pensil, a'r math o lwyd a gaiff ei greu: o 9B i 9H

Ceir dealltwriaeth ledled y byd ynghylch sut i raddio pensil yn ôl ei feddalwch. Ystyr gwreiddiol "H" oedd Hardness, a "B" oedd blackness. Dewisiwyd hefyd y lythyren "F" - sydd yn y canol rhwng HB a H. Y meddalwch arferol, canolig ei liw a ddefnyddir yn aml yw HB.

Mathau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jim Hill Media; Archifwyd 2018-05-23 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 14 Ionawr 2015
Chwiliwch am pensil
yn Wiciadur.